Cyfieithu Ysgrifenedig
Dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn dogfennau fel Iaith Pawb, rhaid i bob corff cyhoeddus ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru. Hefyd mae llawer o gyrff preifat a gwirfoddol yn sylweddoli bod darparu gwasanaeth dwyieithog yn gwneud synnwyr busnes ardderchog yng Nghymru, ac mewn ardaloedd eraill lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol.
Mae cyfieithu yn sgil proffesiynol - nid yw'r ffaith bod rhywun yn siaradwr brodorol unrhyw iaith yn sicrhau y bydd yn gyfieithydd da.
Profiad ac Arbenigedd
Dyma restr o rai o'n meysydd o arbenigedd:
- Addysg
- Meddygaeth a Gofal Iechyd;
- Llywodraeth Ganolog a Lleol;
- Gwaith Cymdeithasol a Chyfraith Deuluol;
- Gwefannau a TG;
- Amaethyddiaeth a Materion sy'n ymwneud â Chefn Gwlad;
- Hamdden a Thwristiaeth.
Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol, felly cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn meysydd eraill.
Y Gwasanaeth
Mae gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig Trosi Tanat yn cynnwys gwneud ymholiadau rhagarweiniol, ac ymholiadau pellach pan mae'r gwaith ar y gweill, fel bo angen. Hefyd, bydd unrhyw gyfarwyddiadau gan y cleient yn cael eu dilyn. Bydd y cyfieithiad bob amser yn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol o ran cynnwys, arddull a fformat.
Amserlenni
Rydym yn falch o'n gallu i ymateb i amrywiaeth eang o geisiadau cyfieithu, yn brydlon ac effeithlon, gan ddiwallu anghenion ein cleientiaid bob amser. Byddwn bob amser yn trafod anghenion cleientiaid, ac yn cytuno ar amserlen, cyn cychwyn ar y gwaith. Os oes gennych ddogfen arbennig o hir neu gymhleth, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl i gynllunio ymlaen llaw a chytuno ar amserlen ar gyfer cyhoeddi'r ddogfen derfynol.
Ar gyfartaledd, mae'n bosibl i ni gyfieithu a phrawfddarllen hyd at 1500 gair fesul diwrnod gwaith. Ystyriwch hyn wrth awgrymu dyddiadau dychwelyd ar gyfer gwaith cyfieithu ysgrifenedig. Ewch i'r dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych i gael gwybodaeth bellach.
Prisiau
Byddwn yn cyfieithu dogfennau sy'n cynnwys hyd at 30 gair am ddim, ar wahân i sloganau. Mae ein prisiau cyfieithu ysgrifenedig ar sail nifer y geiriau yn y ddogfen wreiddiol. Os hoffech amcanbris 'heb rwymedigaeth' am gwblhau darn o waith cyfieithu ysgrifenedig cyrchwch y Ffurflen Gais am Gyfieithu Ysgrifenedig, neu cysylltwch â ni i gael gwybodaeth bellach. Rydym yn cynnig pris gostyngol i grwpiau a chwmnïau lleol, ac elusennau. Ewch i'r dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych i gael gwybodaeth bellach.
Technoleg
Rydym yn defnyddio cyfarpar TG sy'n cynnwys fersiwn diweddaraf Microsoft Office, meddalwedd cof cyfieithu, y caledwedd TG diweddaraf a chysylltiad band llydan cyflym â'r rhyngrwyd. Rydym yn defnyddio meddalwedd cof cyfieithu ac yn gallu delio â chofau Trados, Deja Vu a Wordfast. Ewch i'r dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych i gael gwybodaeth bellach am feddalwedd cof cyfieithu.
Rydym yn arbenigwyr o ran yw meddalwedd cof cyfieithu Wordfast a ni yw'r unig ddarparwyr hyfforddiant Wordfast yng Nghymru. Ewch i’r dudalen Hyfforddiant Wordfast i gael gwybodaeth bellach.
Gallwch ddarparu testun i'w gyfieithu trwy e-bost, trwy ffacs, fel copi caled neu ar ddisg. Ewch i'r dudalen Cysylltu am fanylion cyswllt.
Sicrhau Ansawdd
Bydd y dogfennau a deunyddiau cyfeirio diweddaraf a mwyaf cynhwysfawr yn cael eu defnyddio i ddilysu pob terminoleg a geiriad. Ymhlith y deunyddiau hyn mae CySill (meddalwedd geiriadur a gwirydd sillafu Cymraeg) a chronfa ddata ar-lein y Cynulliad Cenedlaethol TermCymru, ac anogir cleientiaid i roi gwybod i ni am unrhyw ofynion penodol sydd ganddynt mewn perthynas â defnyddio geirfa neu dermau penodol, fel cronfeydd o deitlau sydd eisoes yn bodoli maent yn gallu eu darparu. Gwybodaeth bellach am ein system Sicrhau Ansawdd.
Mae gennym Yswiriant Indemniad Proffesiynol gydag un o brif gwmnïau yswiriant y diwydiant.
Gwybodaeth Bellach
Gwybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau: