Cwmni cyfieithu yw Trosi Tanat sy'n darparu gwasanaethau proffesiynol, yn Gymraeg a Saesneg, o'r ansawdd gorau am bris cystadleuol.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- Cyfieithu ysgrifenedig (hyd at 30 gair am ddim),
- Golygu a phrawf-ddarllen (hyd at 75 gair am ddim),
- Cyfieithu ar y pryd (dehongli),
- Hyfforddiant Wordfast (meddalwedd cof cyfieithu), a
- Chyngor a gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.
Mae gennym flynyddoedd o brofiad proffesiynol o ddarparu gwasanaethau cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd, yn y sector cyhoeddus a phreifat. Rydym yn aelodau llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y corff proffesiynol cydnabyddedig. Lawrlwythwch y ddogfen isod os hoffech wybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau.
Mae Trosi Tanat yn falch o ansawdd a safon uchel ein gwaith, yn ogystal â'n gallu i fodloni terfynau amser a gweithio dan bwysau. Mae ein cymwysterau, ein profiad a'n sgiliau, ynghyd â'n dull o weithredu sy'n gyfeillgar, yn drylwyr ac yn gydwybodol, yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n cleientiaid bob amser.
Bydd y wefan hon yn rhoi golwg i chi ar yr amrywiaeth o wasanaethau rydym yn darparu. Edrychwch ar y dudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwasanaethau, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech unrhyw wybodaeth bellach.