Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

Sut fyddwch yn codi tâl?

Mae ein ffioedd gwaith cyfieithu ysgrifenedig wedi'u seilio ar nifer y geiriau yn y ddogfen wreiddiol. Byddwn yn cyfieithu dogfennau sy'n cynnwys hyd at 30 gair am ddim, ar wahân i sloganau.

Mae ein ffioedd am olygu gwaith pobl eraill wedi'u seilio ar faint o amser bydd golygu'r ddogfen yn cymryd. Byddwn yn golygu dogfennau sy'n cynnwys hyd at 75 gair am ddim.

Mae'r ffioedd ar gyfer cyfieithu ar y pryd wedi'u seilio ar:

  • hyd y digwyddiad,
  • pellter teithio i'r digwyddiad ac oddi yno,
  • cost llogi cyfarpar (os oes angen).

Bydd cost llogi cyfarpar yn dibynnu ar y cyflenwr sy'n cael ei ddefnyddio a nifer y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad a fydd angen cyfieithu ar y pryd.

Os hoffech amcanbris 'heb rwymedigaeth' am ddarn o waith, llenwch y Ffurflen Gais berthnasol a'i dychwelyd atom. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech unrhyw wybodaeth bellach.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cyfieithiad ac naill ai wedi cadarnhau eich bod yn hapus, neu bod y broflen a brawfddarllenwyd (os yw'n briodol) wedi mynd i'r wasg, byddwn yn anfon anfoneb atoch a'r telerau talu yw 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.

Faint o amser bydd yn cymryd i chi gwblhau'r gwaith?

Fel canllaw, mae'n bosibl i ni gyfieithu a phrawfddarllen hyd at 1500 o eiriau fesul diwrnod gwaith. Cofiwch hyn wrth ystyried dyddiadau dychwelyd ar gyfer gwaith cyfieithu ysgrifenedig.

Bydd yr amser sy'n ofynnol i olygu gwaith pobl eraill yn dibynnu ar faint o olygu sydd ei angen.

Rhowch gymaint o rybudd â phosibl pan fyddwch yn gofyn am wasanaethau cyfieithu neu olygu, i sicrhau ein bod yn gallu bodloni eich terfyn amser.

Hoffwn i chi darparu pris i mi am gwblhau darn o waith - allwch chi ddarparu amcanbris i mi?

Wrth gwrs! Llenwch y Ffurflen Gais berthnasol a'i anfon atom gyda'r wybodaeth ofynnol a dogfen(nau) a byddwn wrth ein bodd i ddarparu amcanbris i chi'n brydlon ar gyfer cyfieithu neu olygu dogfen, neu gyfieithu ar y pryd.

Ffurflenni cais:

Sut alla i fod yn siŵr bod eich gwaith o ansawdd?

Mae'r ffaith ein bod wedi cyflawni aelodaeth lawn Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y corff proffesiynol cydnabyddedig, yn sicrhau ansawdd ein gwaith. Gwybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau:

Bydd pob darn o waith yn cael ei brawfddarllen cyn ei ddychwelyd i'r cleient. Mae'r broses hon yn sicrhau bod y cyfieithiad yn gywir, o safon uchel ac yn darllen yn dda.

Mae gennym Yswiriant Indemniad Proffesiynol gydag un o brif gwmnïau yswiriant y diwydiant.

Gwybodaeth bellach am ein prosesau sicrhau ansawdd, neu cysylltwch â ni.

Sut alla i anfon gwaith atoch i'w gyfieithu?

Gallwch ddarparu testun i'w gyfieithu trwy e-bost, ffacs, mewn fformat copi caled neu ar ddisg, a gallwn ddychwelyd y cyfieithiad atoch mewn unrhyw un o'r fformatau hyn.

Os byddwch yn darparu testun i'w gyfieithu trwy e-bost, gallwn drosdeipio'r testun gwreiddiol i sicrhau bod y ddogfen a gyfieithwyd yn adlewyrchu'r ddogfen wreiddiol o ran cynnwys, arddull a fformat. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod testun Cymraeg fel arfer yn cymryd ychydig mwy o le na thestun Saesneg, ac felly bydd angen i chi ystyried hyn wrth ddylunio eich dogfen.

Gallwch ddarparu cyfieithiadau byr (hyd at 30 gair) dros y ffôn, ond byddwn yn eu dychwelyd mewn fformat arall (trwy e-bost, ffacs, mewn fformat copi caled neu ar ddisg) i sicrhau cysondeb.

Nid ydym yn gallu prawfddarllen na golygu dogfennau wedi'u ffacsio, oherwydd gall wallau ddigwydd pan mae dogfennau a phroflenni'n cael yn ffacsio, yn enwedig pan mae print bach iawn, neu gefndir lliw, yn cael eu defnyddio.

Pa raglenni cyfrifiadur ydych chi'n defnyddio?

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 2007 (gydag ôl-cytunedd), sy'n cynnwys MS Word, MS Excel a MS PowerPoint. Hefyd gallwn gyfieithu ffeiliau sy'n cael eu darparu mewn fformat PDF, ond bydd y gwaith wedi'i gyfieithu'n cael ei ddychwelyd fel ffeil MS Word. Rydym hefyd yn defnyddio'r rhaglen gwirio sillafu Cymraeg CySill.

Mae gan Trosi Tanat brofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu gan gynnwys Trados, Déjà Vu a Wordfast. Gallwn weithio â Chofau Cyfieithu sydd gennych eisoes os byddwch yn eu darparu, a gallwn ddychwelyd eich cyfieithiad heb ei 'lanhau', er mwyn i chi allu ei ychwanegu at eich Cof Cyfieithu.

Pa ieithoedd allwch chi gyfieithu?

Gallwn gyfieithu o Gymraeg i Saesneg ac o Saesneg i Gymraeg.

Gwybodaeth bellach am ein cymwysterau, profiad a sgiliau: