Cysylltwch â ni
Mae swyddfa Trosi Tanat wedi'i lleoli yn nhref farchnad Croesoswallt, sy'n Gymreig ei naws ond sydd ychydig dros y ffin yn Lloegr.
Ffôn Symudol: 07814 033759
E-bost: lowri@trositanat.co.uk
Er bod Cyfrifiad 2001 yn dangos bod oddeutu 25% o drigolion Cymru wedi cael eu geni y tu allan i'r wlad, nid yw nifer y siaradwyr Cymraeg yng ngweddill Prydain yn hysbys. Ym 1993, cyhoeddodd S4C, y sianel deledu Cymraeg, ganlyniadau arolwg i nifer y bobl a oedd yn siarad neu'n deall Cymraeg. Roedd yr arolwg hwn yn amcangyfrif bod rhyw 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr, oddeutu 50,000 yn ardal Llundain Fwyaf a'r gweddill yn nhrefi a phentrefi'r Mers Cymreig fel Croesoswallt. Rydym ni yn Trosi Tanat yn credu y dylai siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn byw yng Nghymru dderbyn yr un gwasanaethau a chyfleoedd dwyieithog â siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru.