Gwybodaeth a Chyngor Ieithyddol a Diwylliannol
Mae Trosi Tanat yn darparu cyngor a gwybodaeth i unigolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid a chleientiaid yng Nghymru, ac yn ymwneud â darparu gwasanaethau o'r fath. Gallwn ddarparu gwybodaeth am bob agwedd ar Gymru a'r iaith Gymraeg, a gallwn roi cyngor ar bethau fel Cynlluniau Iaith Gymraeg, dylunio dwyieithog, hyrwyddiad a chysylltiadau cyhoeddus, hyfforddi a phenodi, enwau lleoedd Cymraeg, ynganu ac ati.
Gwasanaeth sy'n cael ei arwain gan alw yw hwn, a bydd yn datblygu i sicrhau ein bod bob amser yn diwallu eich anghenion. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth bellach a thrafod eich anghenion.